Isaiah 49:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddi di'n meddwl i ti dy hun, ‘Pwy gafodd y plant yma i mi? Roeddwn i'n weddw ac yn methu cael plant. Roeddwn wedi cael fy ngwrthod a'm gadael — felly pwy fagodd y rhain? Roeddwn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun — felly o ble daeth y rhain i gyd?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yna y dywedi ynot dy hun, 'Pwy a genhedlodd y rhain i mi, a minnau'n weddw ac yn ddi-blant? Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref; pwy a'u magodd hwy? Yn wir, 'roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; o ble, ynteu, y daeth y rhain?'"