Isaiah 49:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n gwneud arwydd i alw'r cenhedloedd, ac yn codi fy maner i'r bobloedd. Byddan nhw'n cario dy feibion yn eu côl, a dy ferched ar eu hysgwyddau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Rhof arwydd 'm llaw i'r cenhedloedd, a chodaf fy maner i'r bobloedd, a dygant dy feibion yn eu mynwes, a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.