Isaiah 49:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u breninesau dy famaethod; crymant i ti â'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti, a breninesau yn famau maeth. Byddan nhw'n plygu o'th flaen a'u hwynebau ar lawr, ac yn llyfu'r llwch wrth dy draed di. A byddi di'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD — fydd y rhai sydd a'u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti, a'u tywysogesau yn famau maeth iti; plygant i'r llawr o'th flaen a llyfu llwch dy draed; yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf."