Isaiah 49:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwnaf hefyd i'th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a'th gadarn Waredydd di, Jacob.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain; byddan nhw'n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys. A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd — Un Cryf Jacob!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain, a meddwaf hwy 'u gwaed eu hunain fel gwin; yna caiff pawb wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd, ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd."