Isaiah 49:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda'r ARGLWYDD, a'm gwaith gyda'm DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas. Ond mae fy achos yn llaw'r ARGLWYDD, a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedais innau, "Llafuriais yn ofer, a threuliais fy nerth i ddim; er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD a'm gwobr gyda'm Duw."