Isaiah 49:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'm DUW fydd fy nerth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, mae'r ARGLWYDD — wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo — yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob a dod ag Israel yn ôl ato'i hun. Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD, am mai Duw sy'n fy nerthu i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD, a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato, i'm gogoneddu yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, am fod fy Nuw yn gadernid i mi.