Isaiah 49:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a'th roddaf hefyd yn oleuni i'r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i mi dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd, "Peth bychan yw i ti fod yn was i mi, i godi llwythau Jacob ar eu traed, ac adfer rhai cadwedig Israel; fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd, i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear."