Isaiah 49:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a'th ddewisodd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD — sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd — yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu: “Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed, a bydd tywysogion yn ymgrymu, am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon, Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd, wrth gaethwas y trahaus: "Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant, a'r tywysogion yn ymgrymu, o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon, a Sanct Israel, a'th ddewisodd di."