Isaiah 49:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais; a mi a'th gadwaf, ac a'th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn, ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub. Fi sydd wedi dy siapio di, a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl — bydda i'n adfer y wlad, ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;