Isaiah 5:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canaf yr awr hon i'm hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i'm hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl — Cân fy nghariad am ei winllan. Roedd gan fy nghariad winllan ar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mi ganaf i'm hanwylyd ganig serch am ei winllan. Yr oedd gan f'anwylyd winllan ar fryncyn tra ffrwythlon;