Isaiah 5:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a'u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a'u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro; fe grynodd y mynyddoedd, a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.