Isaiah 5:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth; efe a ddianc hefyd, ac a'i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae eu rhuad fel llew, maen nhw'n rhuo fel llewod ifanc sy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a'i lusgo i ffwrdd — all neb ei achub!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae eu rhuad fel llew; rhuant fel llewod ifanc, sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaeth a'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.