Isaiah 5:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i'm gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chi be dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan: Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio; a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, mi ddywedaf wrthych beth a wnaf i'm gwinllan. Tynnaf ymaith ei chlawdd, ac fe'i difethir; chwalaf ei mur, ac fe'i sethrir dan draed;