Isaiah 50:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o'm dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam, a roddais i'w gyrru ymaith? Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi? O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi, ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.