Isaiah 50:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr ARGLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? — Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD, gwrandawed ar lais ei was. Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo, ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD, a phwyso ar ei Dduw.