Isaiah 50:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nghorff a roddais i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddais fy nghefn i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf; ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.