Isaiah 51:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dnt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.