Isaiah 51:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr, yr un a ledodd y nefoedd, ac a sylfaenodd y ddaear? Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd, rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio? Ond ple mae llid y gorthrymwr?