Isaiah 51:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem — ti sydd wedi yfed o'r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deffro, deffro, cod, Jerwsalem; yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid, yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.