Isaiah 51:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd — yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi eu ceryddu gan dy Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol, fel gafrewig mewn magl; y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD, a cherydd dy Dduw.