Isaiah 51:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a'th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o'th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy'n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di, yr un sy'n dadlau achos ei bobl: "Cymerais o'th law y cwpan meddwol, ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;