Isaiah 51:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i'r rhai a elent drosto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ — Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr, a ddywedodd wrthyt, 'Plyga i lawr i ni gerdded trosot.' Ac fe roist dy gefn fel llawr, ac fel heol iddynt gerdded trosti."