Isaiah 51:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro ei hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi, lleisiau'n diolch a sŵn canu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cn.