Isaiah 51:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich.