Isaiah 51:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyrchefwch eich llygaid tua'r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a'r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a'i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a'm cyfiawnder ni dderfydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch i fyny i'r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth.