Isaiah 51:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Deffra! Deffra! Dangos dy nerth o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu'r ddraig?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a'r oesoedd o'r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu'r ddraig?