Isaiah 52:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr ARGLWYDD a â o'ch blaen chwi, a DUW Israel a'ch casgl chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond does dim rhaid i chi adael ar frys na dianc fel ffoaduriaid, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi, ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ar ffrwst yr ewch allan, ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael, oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen, a Duw Israel y tu cefn i chwi.