Isaiah 52:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr ARGLWYDD, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr ARGLWYDD; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, beth sy'n digwydd yma?” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm, ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, beth a gaf yma?" medd yr ARGLWYDD. "Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim, eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost," medd yr ARGLWYDD, "a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd, drwy'r dydd.