Isaiah 52:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a'r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae mor wych gweld negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi fod heddwch. Mae ganddo newyddion da — mae e'n cyhoeddi fod achubiaeth ac yn dweud wrth Seion, “Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; sy'n dweud wrth Seion, "Dy Dduw sy'n teyrnasu."