Isaiah 53:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda'r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda'r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e, a bydd yn rhannu'r ysbail gyda'r rhai cryfion, am ei fod wedi rhoi ei hun i farw, a'i gyfri'n un o'r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno'i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.