Isaiah 53:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a dyf o'i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd e wrth dyfu o'i flaen yn ddim mwy na brigyn, neu wreiddyn mewn tir sych. O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno; dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych; nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.