Isaiah 53:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a'i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a'i gystuddio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a'i guro a'i gam-drin gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.