Isaiah 54:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a'r bryniau yn cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl," medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.