Isaiah 54:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'r hyn dw i wedi ei wneud iddyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth," medd yr ARGLWYDD.