Isaiah 55:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i'r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain, a llwyni myrtwydd yn lle mieri. Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD, fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri; bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono."