Isaiah 56:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn, a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth. Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly, a'r un sy'n glynu wrth hyn, yn cadw'r Saboth heb ei halogi, ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg."