Isaiah 56:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo — pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod