Isaiah 56:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a'u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhu375? gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhu375? yn du375? gweddi i'r holl bobloedd,"