Isaiah 57:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy oedd yn dy boeni a gwneud i ti ofni a dweud celwydd? Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i nac yn cymryd unrhyw sylw ohona i. Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni, a gwneud iti fod yn dwyllodrus, a'm hanghofio, a pheidio meddwl amdanaf? Oni fm ddistaw, a hynny'n hir, a thithau heb fy ofni?