Isaiah 57:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a'u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a'u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu pan fyddi di'n gweiddi — does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw! Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd."