Isaiah 57:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed y Goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; a chyda'r cystuddiedig a'r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd: Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru — dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd 'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: "Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, 'rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.