Isaiah 57:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort? Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Dych chi'n blant i rebeliaid, yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy yr ydych yn ei wawdio? Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,