Isaiah 57:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di; mentra di gyda nhw! Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod, a chyflwyno dy offrwm o fwyd. Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis; yno y mae dy ran. Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm, ac y dygaist fwydoffrwm. A gaf fi fy nhawelu am hyn?