Isaiah 57:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yng nghil y drysau hefyd a'r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er fod arwydd wedi ei osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely. Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau, wedi mwynhau gorweddian yn noeth a dewis dilyn dy chwantau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst, a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun; aethost i fyny yno i daenu dy wely ac i daro bargen hwy. 'Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy, a gweld eu noethni.