Isaiah 58:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a'i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw'r Saboth yn ‛bleser‛, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os peidi sathru'r Saboth dan draed, a pheidio cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd, ond galw'r Saboth yn hyfrydwch, a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus; os anrhydeddi ef, trwy beidio theithio, na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;