Isaiah 58:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a'th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr ARGLWYDD a'i llefarodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a cei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD. Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear, a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob." Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.