Isaiah 58:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto beunydd y'm ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei DUW: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol, ac yn deisyfu gwybod fy ffordd; ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder, heb droi cefn ar farn eu Duw, dnt i ofyn barn gyfiawn gennyf, ac y maent yn deisyfu nesu at Dduw.