Isaiah 58:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych? Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?' meddant. Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych, a gyrru ar eich gweision yn galetach.