Isaiah 58:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a'th iechyd a dardda yn fuan: a'th gyfiawnder a â o'th flaen; gogoniant yr ARGLWYDD a'th ddilyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr, a byddi'n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.