Isaiah 59:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Palfalasom fel deillion â'r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall; yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld. Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu; dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion, yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid; 'rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos, fel y meirw yn y cysgodion.